Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yng Nghymru sy’n darparu’r gwasanaeth yng Nghylch Meithrin Llanllyfni. Gyda 180 o staff proffesiynol ar draws Cymru, mae’r Cylch yn gallu tynnu ar arbenigedd gweithwyr ar lefel Cymru gyfan.
Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanllyfni yw hapusrwydd a diogelwch pob plentyn – cynigir y gofal gorau posib mewn awyrgylch hapus a chartrefol, a chyfle i bob plentyn ddysgu trwy chwarae a datblygu i’w lawn botensial. Mae’r ystafell yn cynnwys offer, teganau ac adnoddau o’r ansawdd uchaf, sy’n adlewyrchu anghenion, datblygiad ac oedran y plant. Cyflwynir gweithgareddau i’r plant sy’n hyrwyddo Cwricwlwm i Gymru a dilynir syniadaeth Dechrau’n Deg ar gyfer plant 2-3 oed er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cychwyn gorau posib ymhob agwedd o’u haddysg. Byddwn yn rhoi sylw manwl i gynllunio’r mannau chwarae tu allan, er mwyn cynnig cyfleoedd a gosod pwyslais ar weithgareddau ysgogol i blant yn yr awyr agored.
Mae staff cymwys a phrofiadol yn gyfrifol am sicrhau fod pob plentyn yn derbyn gofal a sylw tyner a phriodol. Rhoddir ystyriaeth i anghenion a datblygiad pob plentyn unigol yn cynnwys cysgu, cymdeithasu, dysgu a chwarae.
Plant Clwb allan o Ysgol.
Bydd ardal ar gyfer plant 4-11 oed. Lle tawel i ymlacio ar ôl diwrnod prysur yn yr ysgol. Llawn gweithgareddau, gemau, teledu a chonsol gemau. Gall plant ddewis eu gweithgareddau eu hunain wrth gymdeithasu â'u cyfoedion. Bydd hefyd gyfle i ddefnyddio ardal chwarae allan a Neuadd yr ysgol.
Trwy gofrestru eich plentyn yng Nghylch Meithrin Llanllyfni, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd camau bychain cyntaf eich plentyn yn rhai sicr a hyderus.