Nod y Cylch Meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed i oedran ysgol. Yn y Cylch Meithrin bydd eich plentyn yn cael cyfle i fwynhau cwmni plant eraill a dysgu trwy chwarae gyda staff cymwys, cyfeillgar a brwdfrydig.
Rydym yn angerddol am roi cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw hi i chi fel rhiant ddod o hyd i ofal plant o safon ac i deimlo eich bod yn dewis yr addysg orau i'ch plentyn.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar waith y Cylch neu am wybodaeth am gofrestru eich plentyn, cysylltwch â ni.