Prif flaenoriaeth Cylch Meithrin Llanilltud Fawr yw diogelwch a hapusrwydd pob plentyn. Rydym yn cynnig gofal o ansawdd uchel mewn amgylchedd hapus a chartrefol, sy'n cynnig cyfleoedd i bob plentyn ddysgu a datblygu trwy chwarae.
Mae gan plant fynediad at deganau ac adnoddau o'r ansawdd uchel, sy'n adlewyrchu eu hanghenion a'u cam datblygu.
Rydym yn gweithio yn agos gyda Ysgol Dewi Sant, y darparwr addysg gynradd cyfrwng Cymraeg lleol ac rydym yn darparu gofal cofleidiol i'r plant meithrin.
Mae staff cymwys a phrofiadol yn gyfrifol am sicrhau bod pob plentyn yn derbyn gofal a sylw priodol. Rhoddir ystyriaeth bob amser i anghenion datblygiad pob plentyn unigol gan gynnwys cymdeithasu, dysgu a chwarae.
Drwy gofresrtu eich plentyn gyda Cylch Meithrin Llanilltud Fawr gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich plentyn yn ddiogel ac yn derbyn gofal wrth gymrud ei gamau cyntaf mewn addysg a dysgu yn Gymraeg.
Rydym hefyd yn rhedeg grwp Ti a fi, babis a plant bach pob bore dydd Gwener 9:00yb tan 11:00yb yn Ysgol Dewi Sant. Dewch i ymuno mewn a cael hwyl gyda'ch rhai bach.